Gwersylla a Theithio

Ymgollwch yng Ngolygfeydd Ysblennydd Eryri.


Rhyd y Galen Campsite

Gwersylla yn  Eryri

Archebwch heddiw

Mae Rhyd y Galen yn cynnig profiad gwersylla heb ei ail. Wedi'i amgylchynu gan Eryri, mae'r safle'n cynnig llety ar gyfer carafanau teithiol, pebyll, pebyll to, pebyll trelar, faniau gwersylla a charafanau modur gyda chyfleusterau modern a glân.

Ymgollwch ym myd natur a mwynhewch antur gwersylla, gyda naws gwirioneddol heddychlon i lonyddu'r meddwl.

Y Maes Gwersylla

Mae lleiniau glaswellt a lleiniau caled ar gyfer carafanau modur ar gael yn ein maes gwersylla, gydag ychydig o leiniau gwastad ar gael ger y cyfleusterau toiled a chawod hygyrch, er mwyn sicrhau mynediad hwylus i'r cyfleusterau i ymwelwyr ag anableddau.  Mae'r holl gyfleusterau toiled a blociau cawodydd wedi eu goleuo'n dda drwy gydol y nos.

Mae ein lleiniau yn hael o ran maint, gyda lle parcio wrth ymyl eich uned. Yn ogystal, mae gennym 5 llain pabell ddiarffordd gyda lle parcio gerllaw. Mae siop filltir i ffwrdd yn y pentref lleol yn gwerthu hanfodion a chaffi hefyd (Y Bedol, Bethel).

Cyfleusterau

Mae ein maes gwersylla yn dod gyda phopeth sydd ei angen arnoch i fwynhau eich amser yn Eryri yn ddi-drafferth:

  • Darperir goleuadau LED lefel isel ledled y parc.
  • Cysylltiadau trydan 16-amp.
  • Pwynt gwaredu cemegau wedi'i leoli'n gyfleus.
  • Darperir dŵr a draeniad ar bob llain â gwasanaeth.
  • Darperir rhif ffôn cyswllt ar gyfer ymholiadau.
  • Mae wardeiniaid yn byw ar y safle er eich diogelwch a'ch hwylustod.
  • Siop yn gwerthu hanfodion a chaffi yn y pentref, Bethel.
  • Archfarchnadoedd Tesco, Morrisons, Spar ac Asda yng Nghaernarfon.
  • Bloc toiledau a chawodydd
  • Bloc cawod a thoiled hygyrch
  • Mannau golchi llestri a golchi dillad.
  • Wi-Fi am ddim ledled y parc.
  • Pwynt gwefru EV 40kw
  • Gwasanaeth bws lleol wrth fynedfa'r safle.
  • Tacsis lleol ar gael.

Our Reviews

Darllenwch rai o adolygiadau ein cwsmeriaid blaenorol

Cwestiynau Cyffredin - Gwersylla a Theithio

  • Beth yw'r amseroedd cyrraedd ac ymadael?

    Am leiniau teithio a gwersylla, mae cyrraedd ac ymadael am 12 hanner dydd. Ar gyfer y Cwt Bugail, mae cyrraedd o 1:00yp ac ymadael erbyn 11:00yb. Os ydych chi angen trefnu amser ychydig yn wahanol, gadewch i ni wybod ac fe wnawn ein gorau i helpu.

     

  • Ydych chi'n derbyn pebyll?

    Ydym,  mae croeso i bebyll o bob maint, gan gynnwys pebyll to. Gadewch i ni wybod maint bras eich pabell wrth archebu er mwyn i ni ddyrannu'r llain gywir i chi.

  • Ydych chi'n derbyn pebyll to?

    Ydym, rydym yn derbyn pebyll to.

  • Ydych chi'n derbyn carafanau a charafanau modur?

    Rydym yn  yn darparu ar gyfer carafanau, carafanau modur a RVs.  Dylech roi dimensiynau eich cerbyd wrth archebu a chysylltu â ni os oes gennych uned fwy, er mwyn cadarnhau bod llain addas ar gael. 

  • Ydych chi'n derbyn RVs?


    Ydym, mae gennym ychydig o leiniau addas  ar gyfer  RVs. Cysylltwch â ni er mwyn cadarnhau argaeledd fel y gallwn ddarparu llain addas ar eich cyfer.

  • Oes gennych chi leiniau caled?

    Oes, mae lleiniau caled ar gael ar y safle.

  • Oes lleiniau â gwasanaeth llawn ar gael?

    Oes, mae gennym leiniau â gwasanaeth llawn gyda dŵr, draeniad a thrydan 16 amp.  

  • Ydych chi'n cynnig lleiniau tymhorol?

    Ydym, mae gennym leiniau tymhorol â gwasanaeth llawn gyda thrydan a Wi-Fi wedi'u cynnwys.

  • Oes cysylltiadau trydan ar gael?

    Oes, mae gennym leiniau â chysylltiadau trydan 16 amp ar y safle, sy'n darparu tua 3kW ar unrhyw adeg. Sylwer na ellir defnyddio'r cysylltiadau hyn i wefru ceir trydan. Mae gwefru cerbydau trydan ar gael drwy ddefnyddio'r pwynt gwefru 40 kW yng Nghae Crwn gerllaw. Gofynnwch am lain â chysylltiad trydan wrth archebu,  er mwyn sicrhau argaeledd.

  • Oes gennych chi bwynt gwefru ceir?

    Oes, mae gennym bwynt gwefru cerbydau trydan 40kW ar y safle. Bydd angen i chi lawrlwytho app Project EV Pro i'w ddefnyddio.Sylwer na ellir defnyddio'r pwyntiau cysylltu trydan i wefru cerbydau.

  • Oes pwynt gwagio dŵr gwastraff ar gael ar gyfer cartrefi modur?

    Oes, mae pwynt gwagio y gallwch yrru drosto ychydig i lawr o'r giat tuag at y bloc cawod gwyrdd.

  • Ydych chi'n caniatau tanau gwersyll?

    Ydym, rydym yn caniatau tanau, ar yr amod eu bod oddi ar y ddaear a mewn pwll tân. Gellir llogi pyllau tân o'r dderbynfa os nad oes gennych chi un eich hun. Mae coed tân hefyd ar werth yn y dderbynfa. Peidiwch byth â gadael tân heb neb i'w wylio a gwnewch yn sicr ei fod wedi ei ddiffodd yn llwyr cyn mynd i'r gwely.


  • Galla i ddefnyddio barbeciw ar fy safle?

    Gallwch, mae barbeciws yn cael croeso. Defnyddiwch stand barebeciw uchel a pheidiwch â gosod offer poeth yn uniongyrchol ar y glaswellt nac ar y meinciau picnic. Gwnewch yn siwr fod y golosg i gyd wedi oeri'n llwyr cyn ei waredu.

Blog

Straeon Diweddaraf

How to prepare for climbing Yr Wyddfa (Snowdon)
21 Mai 2026
Prepare for the most enjoyable and achievable walk up Wales’ highest peak: our top tips on how to properly train for your climb up Yr Wyddfa (Snowdon).
Eryri (Snowdonia) Myths and Legends
28 Ebrill 2026
Discover the myths and legends of Eryri (Snowdonia), from the Red Dragon of Dinas Emrys to Gelert’s grave and Arthurian tales. Explore the folklore that brings North Wales’ landscapes to life
When is the Best Time of Year to Visit Eryri (Snowdonia)
30 Mawrth 2026
When is the best time to visit Eryri (Snowdonia)? Discover what each season offers, from summer hikes to quiet autumn walks, plus tips for planning your Snowdonia holiday.
Family Camping in Wales: 9 Child Friendly Attractions in Eryri (Snowdonia)
25 Chwefror 2026
Family camping in Eryri (Snowdonia) made easy. Discover 9 child friendly attractions, from castles and beaches to underground adventures, perfect for all ages.
5 Whimsical Waterfall Walks in Snowdonia
8 Ionawr 2026
Discover the most beautiful waterfalls in Eryri (Snowdonia). Stay at Rhyd y Galen Caravan Park to explore Aber Falls, Fairy Glen, and North Wales’ landscapes.
Wildlife to Spot in Snowdonia
11 Rhagfyr 2025
From the common to the endangered, creatures you’ll need an expert eye to see, and even some who plop themselves right in front of you, there’s no feeling quite like separating yourself from the roads and stepping into a life untouched by humans, where the wild and the wonderful thrive.
Discover activities in Snowdonia with Rhyd Y Galen Caravan Park, including hiking, swimming, white w
14 Hydref 2025
Discover activities in Snowdonia with Rhyd Y Galen Caravan Park, including hiking, swimming, white water rafting, surfing, mountain biking, and more.
From restaurants and takeaways to cafes and coffee shops, discover places to eat in the Snowdonia Na
9 Medi 2025
From restaurants and takeaways to cafes and coffee shops, discover places to eat in the Snowdonia National Park through the Rhyd Y Galen Caravan Park blog.
View all

Blog

Latest Stories

How to prepare for climbing Yr Wyddfa (Snowdon)
21 Mai 2026
Prepare for the most enjoyable and achievable walk up Wales’ highest peak: our top tips on how to properly train for your climb up Yr Wyddfa (Snowdon).
Eryri (Snowdonia) Myths and Legends
28 Ebrill 2026
Discover the myths and legends of Eryri (Snowdonia), from the Red Dragon of Dinas Emrys to Gelert’s grave and Arthurian tales. Explore the folklore that brings North Wales’ landscapes to life
When is the Best Time of Year to Visit Eryri (Snowdonia)
30 Mawrth 2026
When is the best time to visit Eryri (Snowdonia)? Discover what each season offers, from summer hikes to quiet autumn walks, plus tips for planning your Snowdonia holiday.
Family Camping in Wales: 9 Child Friendly Attractions in Eryri (Snowdonia)
25 Chwefror 2026
Family camping in Eryri (Snowdonia) made easy. Discover 9 child friendly attractions, from castles and beaches to underground adventures, perfect for all ages.
View all

Peidiwch â Rhuthro Adref

Peidiwch â rhuthro adref ar ddiwedd eich gwyliau. Rydym yn cynnig opsiwn aros yn hwyr ar eich diwrnod gadael. Am £5 ychwanegol gall gwesteion aros tan 5pm (os oes lle). Gofynnwch i'r wardeiniaid ar eich diwrnod gadael am argaeledd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni, a byddwn yn fwy na pharod i roi unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch.