Maes Carafanau a Phebyll Rhyd y Galen Eryri, Gogledd Cymru
Ger Caernarfon, Yr Wyddfa ac Ynys Môn
Lle Gwych
Wedi'i leoli ger Eryri (Parc Cenedlaethol Eryri)
Lleoliad Ardderchog
Darganfyddwch olygfeydd gogledd Cymru
Cyfleusterau o'r Safon Uchaf
Ar gyfer arhosiad cysurus
Gweithgareddau
Mae parc carafanau, maes gwersylla, a llety glampio Rhyd y Galen yn leoliad gwych ar gyfer archwilio popeth sydd gan ogledd Cymru i'w gynnig.
Y Parc
Glampio
Ynglŷn â
Wedi'i leoli yng ngolygfeydd godidog Eryri, gogledd Cymru ac yn agos at dref hanesyddol Caernarfon
Dim ond 1.2 milltir o Lwybr Arfordir Cymru, mae'r maes carafanau a phebyll yn darparu llety a lleiniau carafanau tymhorol ar gyfer carafanau teithiol, pebyll, pebyll trelar a chartrefi modur mewn lleoliad heddychlon, tawel.
Our Reviews
Darllenwch rai o adolygiadau ein cwsmeriaid blaenorol
Glampio
Cysur Ychwanegol gyda'n Cwt Bugail ar gyfer Glampio
I'r rhai sy'n chwilio am ychydig o gysur ychwanegol, rydym yn cynnig arhosiadau yn ein Cwt Bugail sy'n cynnwys gwely dwbl, duvet, stôf losgi coed a thŷ bach. Mae'r safle glampio mewn lleoliad perffaith ar gyfer cerdded, gyda llwybr Yr Wyddfa gerllaw yn ogystal â llwybr arfordirol gogledd Cymru a llwybrau cerdded a beicio eraill. Mae gan ein safle ystod lawn o gyfleusterau modern, glân er mwyn sicrhau arhosiad cyfforddus i'n gwesteion, ac mae wedi'i leoli'n agos at gyfleusterau lleol.
Am ragor o wybodaeth, i wirio argaeledd neu i wneud archeb, archebwch ar-lein, ffoniwch 01248 671114 neu e-bostiwch info@wales-camping.co.uk.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Faes Carafanau a Phebyll Rhyd y Galen.
Cwestiynau Cyffredin - Rhyd y Galen
Ble mae Rhyd y Galen wedi'i leoli?
Rydym wedi ein lleoli yng nghefn gwlad tawel gogledd orllewin Cymru, ger Eryri. Mae'r cyfeiriad llawn a chyfarwyddiadau gyrru i'w cael ar ein tudalen Cysylltu.
Pa mor bell yw Rhyd y Galen o lwybr i fyny'r Wyddfa?
Mae Maes Carafanau a Phebyll Rhyd y Galen 15 munud o yrru i ffwrdd o lwybr Llanberis.
Pa mor bell yw Ynys Môn?
Mae Ynys Môn 10 munud o yrru i ffwrdd.
Pa mor bell i ffwrdd yw Rhyd y Galen o Zip World Chwarel y Penrhyn?
Rydym 10 milltir o'r Velocity Zip Line ym Methesda.
Beth yw eich tymor?
Rydym ar agor o'r 1af Mawrth -31ain Hydref.
Sut ydw i'n bwcio?
Ar ein gwefan, neu drwy gysylltu â ni yn uniongyrchol dros y ffôn neu e-bost. Rydym yn argymell bwcio ymlaen llaw yn ystod y tymor prysur - mae gwyliau ysgol a phenwythnosau gŵyl y banc yn llenwi'n gyflym.
Ydych chi'n derbyn ymwelwyr heb bwcio ymlaen llaw?
Ydym, os oes lle ar gael. Rydym yn argymell cysyllyu â ni cyn eich ymweliad, yn enwedig yn ystod y penwythnosau a'r gwyliau, er mwyn osgoi siom.
A oes croeso i gŵn?
Oes, mae croeso mawr i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ac mae gennym ardal ymarfer cŵn ar y safle. Gofynnwn fod pob ci ar dennyn ar bob adeg, bod baw ci yn cael ei glirio ar unwaith, a bod cŵn byth yn cael neu gadael ar ben eu hunain. Gwnewch yn siwr nad yw eich ci yn cyfarth yn ormodol ac yn tarfu ar ymwelwyr eraill.
Ydych chi'n caniatau tanau?
Ydym, ar yr amod eu bod oddi ar y ddaear a mewn pwll tân. Gellir llogi pyllau tân o'r dderbynfa os nad oes gennych chi un eich hun. Mae coed tân hefyd ar werth yn y dderbynfa. Peidiwch byth â gadael tân heb neb i'w wylio a gwnewch yn siwr ei fod wedi'i ddiffodd yn llwyr cyn mynd i'r gwely.
Beth yw'r amseroedd cofrestru a gadael?
Ar gyfer carafanau teithiol a gwersylla, mae cofrestru a gadael am 12 canol dydd. Ar gyfer y Cwt Bugail, mae cofrestru o 1:00yp ac mae gadael erbyn 11:00yb. Os oes angen trefnu amser ychydig yn wahanol, siaradwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
Ydy'r safle yn hygyrch i ymwelwyr ag anableddau?
Ydy, mae gennym doiled a chawod hygyrch gyda safleoedd caled gwastad gerllaw. Rydym am i bawb fwynhau eu harosiad. Cysylltwch â ni cyn eich ymweliad a gallwn drafod eich gofynion penodol a gwneud ein gorau i'ch lletya'n gyfforddus.














