Ardal Leol

Cefn gwlad bendigedig gogledd Cymru i'w ddarganfod.


The Stunning North Wales Countryside

Eryri o'ch cwmpas

Archebwch heddiw

Mae Maes Carafanau a Phebyll Rhyd y Galen yn leoliad perffaith i fwynhau harddwch naturiol Yr Wyddfa, Parc Cenedlaethol Eryri ac ar gyfer archwilio ardaloedd cyfagos Caernarfon a gogledd Cymru yn ehangach.

Profwch olygfeydd godidog Eryri a thraethau ac arfordir prydferth cyfagos. Darganfyddwch hanes a diwylliant cyfoethog yr ardal.

Eryri (Snowdonia)

Digonedd o Ddewis ...

Gyda gweithgareddau awyr agored, safleoedd o ddiddordeb hanesyddol, atyniadau lleol ac arfordir gogledd Cymru o fewn pellter byr mewn car, mae digon o anturiaethau yn aros amdanoch yn ardal yr Wyddfa, Eryri, Caernarfon a gogledd Cymru.

O fewn pellter cerdded neu daith fer mewn car mae cyfleusterau lleol gan gynnwys tafarndai, bwytai, siopau, marchnadoedd, canolfan gelfyddydau archfarchnadoedd a gorsaf betrol . Mae pentref Bethel lai na milltir i ffwrdd tra bod tref Caernarfon ond dwy filltir i ffwrdd. Mae pentrefi a threfi lleol eraill yn cynnwys Y Felinheli a Llanrug (3 milltir), Bangor (6 milltir), Llanberis (6.5 milltir), Betws y Coed (23 milltir) a Llandudno (25 milltir).