Pethau i'w Gwneud

Darganfyddwch ogledd Cymru o

Rhyd y Galen.


Gweithgareddau Awyr Agored

Mae hon yn ardal sy'n adnabyddus am ei harddwch naturiol ac mae Maes Carafanau a Phebyll Rhyd y Galen yn ganolfan berffaith i ymwelwyr fwynhau gogledd Cymru ac i archwilio golygfeydd godidog Parc Cenedlaethol Eryri. Dim ond 7 milltir i ffwrdd yw llwybr yr Wyddfa, mae Caernarfon 3 milltir i ffwrdd, ac mae digonedd o lwybrau cerdded eraill ar gyfer pob gallu o fewn cyrraedd hawdd i'r safle. Mae mynediad i Lôn Las, y llwybr beicio cenedlaethol a'r llwybr troed ychydig dros filltir i ffwrdd. Mwynhewch daith gerdded ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac sydd ychydig dros filltir i ffwrdd o'r safle.

Ychydig i lawr y ffordd mae Plas Menai, y Ganolfan Chwaraeon Dŵr Cenedlaethol, lle gall ymwelwyr ddysgu hwylio, canŵio, hwylfyrddio neu ddefnyddio'r pwll nofio yno. Neu rhowch gynnig ar blymio sgwba yng Nghanolfan Ddeifio Vivian. Ewch i ymweld â'r Mynydd Gwefru, gorsaf bŵer trydan hydro, ewch ar daith ar y llyn neu ewch i Ganolfan Chwaraeon Dŵr Padarn.

Profwch dirwedd unigryw ardaloedd llechi gogledd orllewin Cymru, sydd wedi eu dynodi yn Safle Treftadaeth y Byd Unesco, trwy ddilyn Llwybr Llechi Eryri sy'n ymweld â rhai o rannau llai hysbys ond prydferth Eryri. O fynyddoedd a choedwigoedd,  i lynnoedd ac afonydd, o'r dyffrynoedd i'r môr.

Am gyffro, rhowch gynnig ar y reid gwifren wîb hiraf yn Ewrop yn Zip World, Bethesda - 9 milltir i ffwrdd.

Efallai y bydd gan selogion bywyd gwyllt ddiddordeb mewn taith gwylio adar broffesiynol gydag Adar Eryri, a gall pysgotwyr bysgota yn y môr, afonydd a llynnoedd yr ardal, gyda physgota cwrs dim ond 3 milltir i ffwrdd.

Hanes Lleol

Mae llawer o gestyll yn yr ardal gan gynnwys castell enwog Caernarfon (2.5 milltir i ffwrdd), yn ogystal â Chonwy, Biwmares, Harlech a Dolbadarn. Mae tref Caernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd Unesco a gall ymwelwyr fwynhau un o'r nifer o fariau a chaffis o fewn muriau hanesyddol yr hen dref. O'r cei islaw'r castell, mae teithiau cychod pleser yn rhedeg ar hyd Afon Menai.

Mae gweithgareddau yn y dref yn cynnwys cwrs golff 18 twll, Galeri sy'n Ganolfan Gelfyddydol â sinema, canolfan hamdden gyda thenis dan do, sboncen, pwll nofio a champfa. Mae gan Faes Awyr Caernarfon amgueddfa awyrennau ac mae'n cynnal hediadau pleser ar hyd Afon Menai ac o amgylch Yr Wyddfa.

Mae Llanberis yn bentref  sydd wedi ei leoli wrth droed yr Wyddfa, lle mae'r trên i'r copa yn cychwyn ac yma hefyd mae'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol sy'n adrodd hanes y cymunedau llechi a'u pobl.

Uchafbwynt arall yw Portmeirion, y pentref hyfryd Eidalaidd byd-enwog, ble ffilmwyd “The Prisoner.'

 Dim ond 14 milltir i ffwrdd yw Beddgelert gyda'i chwedl am gi Llewelyn Fawr. Gallwch ymweld â bedd Gelert, cerdded ym mwlch hardd Glaslyn ac yna ymweld â mwynglawdd copr Sygun a gweld amodau gweithwyr copr yn y 19eg Ganrif.

Mae ogof lechi Llechwedd yn fwynglawdd arall o'r 19eg Ganrif gydag ogof lechi enfawr â chwrs antur tanddaearol sy'n cynnwys gwifren ŵib, trampoline anferth, cwrs golff 18 twll a theithiau hanesyddol tanddaearol.

Arfordir

O'ch canolfan yn Rhyd y Galen, ewch i'r traethau niferus fel Dinas Dinlle (8 milltir) neu Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn gyda'i filltiroedd o dywod euraidd (18 milltir). Tra byddwch chi ar Ynys Môn,  Beth am fynd ar daith cwch rib ar Afon Menai? Bydd plant ac oedolion yn mwynhau Pili Palas, y palas gloÿnnod byw a'r bwystfilod bach, a Sw Môr Môn.

Mae tref Biwmares yn llawn hanes, gan gynnwys y castell a'r hen garchar.



Ymhellach i Ffwrdd

25 milltir i ffwrdd, mae tref glan môr Fictoraidd Llandudno. Yma gallwch fynd ar y tram neu'r car cebl i fyny'r Gogarth neu ymweld â distyllfa wisgi Penderyn.

Rhyw 6 milltir ymhellach i fyny'r arfordir ym Mae Colwyn mae Sŵ Mynydd Cymru..

Ewch am dro o amgylch Penrhyn Llŷn gyda'i olygfeydd hudolus, traethau hyfryd a safleoedd unigryw fel Ynys Enlli sy'n llawn bywyd gwyllt a hanes.

Mae Pen Llŷn yn llawn o bentrefi a threfi sy'n werth ymweld â nhw, fel Aberdaron (tripiau i Ynys Enlli), Nefyn (Amgueddfa Forwrol Llŷn), Porthdinllaen, Pwllheli (tref farchnad) a Nant Gwrtheyrn (Canolfan Iaith a diwylliant).